Gofal yn y cartref

Gofal o safon fyd-eang i unigolion ag anghenion cymhleth, anableddau dysgu, awtistiaeth ac iechyd meddwl.

Gan weithio gyda Byrddau Iechyd, Byrddau Gofal Integredig (BGIau), Rheolwyr Achos, Ymddiriedolaethau ac Awdurdodau Lleol ledled Cymru a Lloegr, mae TCS yn darparu cymorth munud olaf, tymor byr a/neu hirdymor i blant ac oedolion sydd gyda’r anghenion gofal mwyaf cymhleth o fewn eu cartrefi a'u cymunedau; 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

P’un a oes angen cymorth ôl-lenwol arnoch ar gyfer cyflenwi dros dro, hwylusiad o ryddhadau cynnar o’r ysbyty, sefydlogi pecynnau gofal mewn argyfwng neu angen pecynnau gofal a gomisiynir yn gynaliadwy tymor hwy, gallwn drefnu tîm arbenigol o nyrsys a chynorthwywyr gofal iechyd i gamu i mewn yn gyflym ac yn effeithlon i gynnal diogelwch cleientiaid.

Mae ein nyrsys cymunedol arbenigol a chynorthwywyr gofal iechyd yn cwmpasu amrywiaeth o arbenigeddau gan gynnwys UThD, nyrsio cyffredinol, anableddau dysgu a/neu awtistiaeth ac iechyd meddwl.

 

Ein gwasanaethau

Gofal cymhleth

Rydym yn gofalu am y cyflyrau clinigol a chymdeithasol mwyaf cymhleth. Nid oes angen sy’n rhy gymhleth. Mae'r amodau rydym yn gofalu amdan yn cynnwys:

• Anaf i'r ymennydd

• Diwedd oes

• Niwrolegol

• Gofal lliniarol

• Anableddau corfforol

• Asgwrn cefn

 

Iechyd meddwl

Rydym wedi ymrwymo i leihau’r galw am welyau cleifion mewnol a chynnydd yn nifer yr aildderbyniadau i’r ysbyty ar gyfer pobl sy’n byw gyda chyflyrau iechyd meddwl cymhleth.

Mae ein gwasanaeth adsefydlu dwys yn y cartref yn darparu dewis amgen i gyfleusterau cleifion mewnol Haen 4 ar gyfer y rhai gall elwa, fel gallant aros mewn amgylchedd diogel a chyfarwydd gartref gyda'u teuluoedd.

 

Anableddau dysgu ac awtistiaeth

Rydym yn darparu cymorth clinigol ac ymddygiadol i unigolion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth, o ofal 6:1 i 1:1 neu oriau unigol wedi'u teilwra i anghenion y person; gan roi pwyslais cryf ar Gymorth Ymddygiad Cadarnhaol (PBS) hyrwyddo dewis personol a chynhwysiant.

Mae pob un o’n gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi’u hyfforddi mewn dad-ddwysáu geiriol, ymwahanu ac ymyrraeth gorfforol i sicrhau bod diogelwch yn cael ei gynnal bob amser, gan arwain at leihad mewn ymddygiadau sy’n peri pryder ac arferion cyfyngol ar gyfer yr unigolion rydym yn cynorthwyo.

 

Mae ein gwasanaeth a reolir yn llawn yn cynnwys:

Gofal arweiniol

Mae ein harweinwyr clinigol yn cynnal asesiadau clinigol ac ailasesiadau, gan greu cynlluniau gofal mae'r tîm gofal cyfan yn gweithio iddynt. Maent yn ymweld â chleientiaid yn rheolaidd ac yn addasu'r cynllun yn unol â hynny.

Llinell gymorth glinigol a gweithredol 24 x 7, 365 diwrnod y flwyddyn ar gyfer pob cleient a'u tîm gofal. Ar gael bob amser ac yn ymatebol, gydag arbenigedd busnes, clinigol a gweithredol.

 

Adrodd

Adroddiadau misol a chyfarfodydd chwarterol gyda rheolwr partneriaeth yn amlygu cwmpas sifftiau, diweddariadau clinigol, diogelu a rheoli ansawdd ar gyfer pob cleient.

 

Rheoli stoc

Rydym yn gwirio’r stoc o feddyginiaethau ac offer meddygol yn rheolaidd, gan adrodd yn rhagweithiol pan fydd stociau am redeg yn isel.

 

Timau helaeth

Mae gan bob cleient reolwr busnes, rheolwr partneriaeth, arweinydd clinigol a chydlynydd gofal.

 

Llywodraethu clinigol

Mae ein rheolaeth glinigol gadarn a'n seilwaith yn golygu gallwn addasu ein gwasanaeth yn gyflym, er mwyn lleihau neu gynyddu gofal yn ddiogel yn unol ag anghenion newidiol cleient.

 

  

Cysylltwch â ni

Am ragor o wybodaeth neu i drafod sut y gallwn eich cefnogi, cysylltwch â ni neu llenwch y ffurflen isod:

enquiries@thornburycommunityservices.co.uk

0333 323 1266